Rhaid dal i fod yn ofalus a pharatoi er gwaetha’r gwelliannau i lwybr heriol ardal hardd Bro’r Sgydau

Llwybr wedi'i wella ger Sgwd yr Eira

Mae angen gofal a pharatoi o hyd er bod gwelliannau wedi’u gwneud i wella diogelwch llwybr anodd sy’n arwain at lecyn prydferth ym Mro’r Sgydau, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Gwnaed gwelliannau diogelwch i ran o lwybr Sgwd yr Eira, cyrchfan boblogaidd i ymwelwyr ym Mro’r Sgydau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Er gwaethaf ei boblogrwydd ymysg ymwelwyr a ffotograffwyr, mae'r llwybr sy’n dringo at y rhaeadr drawiadol yn un heriol ac mae angen i ymwelwyr fod wedi'u paratoi'n dda a chanolbwyntio ar y dirwedd anwastad.

Gwnaed y gwelliannau i ran o lwybr sy’n arwain at droed y rhaeadr gan gontractwyr arbenigol sy’n gweithio ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae'r gwelliannau wedi cael gwared o’r amrywiadau mwyaf peryglus yn uchder ac ongl y creigiau garw sy'n ffurfio'r llwybr a hefyd wedi gwneud y llwybr o'r afon o dan y rhaeadr yn fwy amlwg.

Meddai Paul Dann, Arweinydd Tîm Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Er ein bod yn fodlon iawn gydag ansawdd y gwelliannau hyn i rannau o’r llwybrau sy’n arwain at Sgwd yr Eira, mae’r daith yn dal i fod yn un heriol.
“Mae’n golygu cerdded ar lwybr anwastad a garw yn yr awyr agored, ac felly mae’n bell o fod yn daith hamddenol.
“Dylai unrhyw un sy’n bwriadu ymweld â Sgwd yr Eira fod wedi paratoi’n briodol a chofio gwisgo’r dillad cywir ar gyfer yr amodau, a phâr o esgidiau cerdded cryf. Mae gormod o bobl yn dod heb baratoi, ac o’r herwydd mae anafiadau i’r ffêr ac anafiadau difrifol yn digwydd yn llawer rhy aml.
“Gall yr ardal fod yn un brysur iawn ar adegau poblogaidd o’r flwyddyn, felly rydym hefyd yn annog fod ymwelwyr sy’n bwriadu dod draw yma yn chwilio am berlau cudd eraill yn ddigon pell o’r ardaloedd prysuraf.”

Er mwyn dod o hyd i berlau cudd ac i gynllunio diwrnod allan ardderchog, ewch i wefan CNC: cyfoethnaturiol.cymru/ar grwydr.