Camerâu yn darlledu o nyth gweilch Llyn Clywedog yn mynd yn fyw am dymor 2024

Golwg o gangen o gamera ffyrdio

Mae'r camerâu ffrydio ar nyth gweilch y pysgod Llyn Clywedog wedi mynd yn fyw ar gyfer tymor 2023.

Mae'r lluniau ffrwd byw - a hwylusir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC)  - wedi syfrdanu dilynwyr y nyth ers iddo gael ei lansio yn 2020 wrth i’r cyfnod clo Covid-19 cyntaf cael ei gyhoeddi.

Mae'r camerâu yn galluogi i luniau byw o nyth gweilch y pysgod i chwarae ar unrhyw ddyfais sy'n gallu chwarae fideos YouTube.

Mae un camera yn canolbwyntio ar y nyth tra bod un arall yn ffocysu ar gangen gerllaw.

Mae paneli solar a technoleg is-goch yn caniatáu ar gyfer ffrydio 24 awr o'r nyth, hyd yn oed yn nhywyllwch y nos.

Mae lluniau byw o'r ddau gamera ar gael ar YouTube drwy chwilio "Llyn Clywedog Ospreys", neu trwy ddefnyddio'r dolenni isod:

Dywedodd John Williams, Cynorthwy-ydd Technegol Rheoli Tir CNC:
"Mae gennym bopeth yn barod ar gyfer tymor arall o ddilyn yr adar hardd a phwysig hyn. Y cyfan sydd ei angen nawr yw eu bod yn dychwelyd!
"Does dim ffordd i ragweld natur, ac ni allwn hyd yn oed fod yn sicr y bydd y ddau aderyn yn dychwelyd. Rydyn ni'n gwybod bod yr aderyn benywaidd wedi gadael ei thir gaeafu dair wythnos yn ôl, felly rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n cyrraedd yn ddiogel yn y dyddiau nesaf."

Adeiladwyd y nyth gan staff CNC ar blatfform uchel mewn coeden sbriws sitka yn 2014 ac mae wedi profi'n deorydd cynhyrchiol dros y blynyddoedd, gyda 22 o gywion yn ffoi o'r nyth ac yn mudo ers ei hadeiladu yn 2014.

Adar mudol sy'n gaeafu yn Affrica yw gweilch y pysgod. Mae’n hysbys bod 5F – gwalch breswyl Llyn Clywedog yn treulio'r gaeaf yng Nghors Tanji yn y Gambia, Gorllewin Affrica.

Gall gweilch fagu hyd at dri chyw mewn tymor.

Mae Llyn Clywedog yng Nghoedwig Hafren sy'n cael ei gynnal gan CNC.