Cyflwr ein dŵr daear yng Nghymru - Asesiad o ansawdd dŵr daear

Yn ein blog diwethaf, fe wnaethon ni edrych ar ein hasesiad o lefelau dŵr daear yng Nghymru a thrafodwyd newid yn y ffordd y mae lefelau dŵr daear yn dod yn fwy amrywiol mewn ymateb i newid hinsawdd a phatrymau tywydd mwy eithafol.

Yn y blog hwn, byddwn yn canolbwyntio ar ein hasesiad o ansawdd dŵr daear – cyflwr ffisegol, cemegol a biolegol cyffredinol dŵr daear.

Ers bron i ugain mlynedd, rydym wedi bod yn mesur ansawdd dŵr daear mewn dyfrhaenau yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, rydym yn monitro tua 170 o safleoedd, yn cynnwys cymysgedd o dyllau turio, ffynhonnau, tarddellau a cheuffyrdd. Gwnawn hyn i fonitro dŵr daear yn ei gyflwr ‘naturiol’ i ffwrdd o ffynonellau halogi hysbys fel safleoedd diwydiannol, safleoedd tirlenwi neu feysydd awyr.

Rydym yn casglu samplau dŵr unwaith i bedair gwaith y flwyddyn ac yn dadansoddi’r dŵr hwn i chwilio am dros 300 o wahanol sylweddau. Mae hyn yn cynnwys sylweddau fel metelau, chwynladdwyr, plaladdwyr a hydrocarbonau.

Mae ein samplau dŵr yn cael eu hasesu yn erbyn sawl rhestr o safonau, sef safonau dŵr yfed y Deyrnas Unedig, y Safonau Ansawdd Amgylcheddol, gwerthoedd trothwy dŵr daear, a safonau ar gyfer sylweddau peryglus mewn dŵr daear.

Yn ogystal â’n data ein hunain, rydym yn asesu data dŵr daear a gesglir gan awdurdodau lleol, gan gwmnïau dŵr, a chan sefydliadau fel yr Arolygiaeth Dŵr Yfed ac Arolwg Daearegol Prydain.

Beth mae ein hasesiad diweddaraf yn ei ddweud wrthym am ansawdd dŵr daear?

Yn ein dosbarthiad mwyaf diweddar(2021) o statws cemegol dŵr daear, ystyriwyd bod gan 17 o'n 39 corff dŵr daear statws cemegol gwael.

Canfuwyd pymtheg o sylweddau uwchlaw safonau dŵr yfed y DU a’r safonau ar gyfer sylweddau peryglus mewn dŵr daear mewn samplau a gasglwyd ac a ddadansoddwyd rhwng 2009 a 2021.

Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Metelau - gan gynnwys manganîs, haearn, cadmiwm, arsenig, alwminiwm, plwm a nicel. Mae'r rhan fwyaf o fetelau mewn dŵr daear yn digwydd yn naturiol ond gallant hefyd fod yno oherwydd halogiad. Mae ein hanes hir o echdynnu metel a glo yn golygu bod dŵr daear yn llawn metel o dros 1,300 o fwyngloddiau segur yn achosi llygredd mewn llawer o’n hafonydd. Roedd saith o'r 15 achos o fynd uwchlaw’r safonau ar gyfer metelau.

  • Clorofform - Mae clorofform neu dricloromethan yn gyfansoddyn organig ac yn sgil-gynnyrch dŵr clorinedig, sy'n diraddio'n araf yn y pridd. Gall hefyd ffurfio'n naturiol mewn priddoedd. Mae clorofform yn mynd uwchlaw y safon mewn 13% o’n samplau dŵr daear ac fe’i ceir mewn 43 o leoliadau samplu amrywiol ledled Cymru.

  • Nitrad - Mae nitrad yn elfen gyffredin o wrtaith cemegol ac organig (tail, gweddillion treuliad) a charthffosiaeth. Roedd 3% o'r samplau dŵr daear a gasglwyd uwchlaw’r safon dŵr yfed. Cafwyd gormodedd o nitrad mewn 14 o safleoedd samplu, a ganfuwyd mewn ardaloedd sy'n cael eu ffermio'n fwy dwys.

  • Sodiwm - Mae sodiwm yn elfen sy'n digwydd yn naturiol ac mae'n hysbys yn bennaf fel halen cyffredin.  Mae sodiwm yn mynd uwchlaw’r safon dŵr yfed mewn 2% o’r samplau dŵr daear. Cafwyd sodiwm yn mynd uwchlaw’r safon mewn chwe safle yn unig, sy'n ymddangos fel pe baent yn ymwneud ag ymwthiad dŵr o'r môr, arllwysiad mwyngloddiau, ac o bosibl prosesu bwyd a diwydiannol.

  • Plaladdwyr - Mae'r plaladdwyr Atrazine, Diazinon a Mecoprop yn mynd uwchlaw’r safonau priodol mewn 3%, 2% ac 1% o’r samplau dŵr daear. Nid yw Atrazine a Mecoprop wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn y DU ar hyn o bryd ond gallant fod yn bresennol mewn dŵr daear o ddefnydd hanesyddol, defnydd anghyfreithlon parhaus o hen gyflenwadau, neu o safleoedd tirlenwi. Mae Diazinon yn dal i gael ei ddefnyddio ac fe'i ceir yn gyffredin mewn cynhyrchion a ddefnyddir i ddipio defaid.

  • Tricloroethan - Gwaharddwyd tricloroethan ym 1996 gan ei fod yn niweidio'r osôn. Cyn hyn, fe'i defnyddiwyd ar gyfer glanhau rhannau metel ac fel toddydd, teneuwr, a sylwedd gwthiol mewn caniau aerosol. Ar yr wyneb, mae'n anweddu'n gyflym ond, mewn pridd a dŵr daear, mae’n dadelfennu i ffurfio dicloroethan, sydd hefyd yn sylwedd peryglus. Roedd tricloroethan ond yn mynd uwchlaw’r safon mewn 1% o samplau ac mewn pedwar safle samplu, a oedd yn cynnwys ystâd ddiwydiannol a fferm.

  • Tricloroethylen - Defnyddir tricloroethylen fel toddydd diseimio diwydiannol wrth lanhau metel a thoddydd echdynnu yn y diwydiant gweithgynhyrchu tecstilau. Fe'i defnyddiwyd hefyd yn y diwydiant sychlanhau tan ganol y 1950au. Canfuwyd bod tricloroethylen  uwchlaw’r safonau mewn 0.5% o’r samplau yn unig, ac mewn dim ond pump o’n lleoliadau samplu, gan gynnwys dwy ystâd ddiwydiannol, gwesty, marchnad amaethyddol a fferm.

Chart showing substances found in groundwater samples

Pan fyddwn yn dod o hyd i sylweddau sy'n uwch na'r safon berthnasol, rydym yn hysbysu perchnogion y cyflenwad dŵr a phartneriaid eraill, fel adrannau iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol, fel y gallant sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i wneud y dŵr yn ddiogel i'w yfed. 

Lle mae llygredd yn cael ei amau, rydym yn ymchwilio a lle bo angen yn defnyddio ein pwerau gorfodi i ddileu ffynhonnell y llygredd a sicrhau bod dŵr daear yn cael ei lanhau.

Cynllunio i’r dyfodol

Mae dŵr daear dan fygythiad o ‘halogion sy'n dod i'r amlwg’.  Dyma sut rydym yn disgrifio sylweddau nad ydynt wedi'u rheoleiddio eto ond a allai fod yn niweidiol i iechyd yr amgylchedd neu iechyd dynol.

Yn 2022, dadansoddwyd ein samplau dŵr i chwilio am 2,269 o lygryddion sy'n dod i'r amlwg a chemegion ‘ffordd o fyw’, megis meddyginiaethau a chynhyrchion glanhau a gofal personol.

Roedd y rhai a nodwyd amlaf yn cynnwys cynhyrchion fferyllol fel bethanidin, a ddefnyddir i drin pwysedd gwaed uchel, a parasetamol, nicotin, caffein, a nifer o blaladdwyr a chwynladdwyr.

Emerging pollution threats found in groundwater samples

Yn 2023, mewn 70 o'n safleoedd monitro dŵr daear, rydym wedi samplu ar gyfer dau sylwedd perfflworinedig a pholyfflworinedig (PFAS), a elwir yn asid perfflworooctanoic (PFOA) ac asid sylffonig perfflwrooctan (PFOS).  Cyfeirir at y rhain yn aml fel ‘cemegion am byth’ oherwydd eu dyfalbarhad yn yr amgylchedd. 

Mewn dau leoliad, roedd crynodiadau'r sylweddau hyn yn mynd uwchlaw Haen 1 gwerth canllaw’r Arolygiaeth Dŵr Yfed. Mae ein labordy ar hyn o bryd yn datblygu ei dechneg dadansoddi, a fydd yn caniatáu i ystod ehangach o sylweddau PFAS gael eu samplu ar gyfer y dyfodol.

Mae ymchwilio ymhellach i'r bygythiad o halogion sy'n dod i'r amlwg yn un o'r blaenoriaethau a nodwyd gennym yn dilyn ein hasesiad o ansawdd dŵr daear. 

Mae angen inni sicrhau bod gennym y gallu a'r galluogrwydd i fonitro am halogion sy'n dod i'r amlwg er mwyn ein galluogi i bennu maint y broblem ar hyn o bryd ac ym mhle yng Nghymru y maent yn ymddangos fwyaf, ac i asesu a yw ein dull rheoleiddio yn parhau i fod yn addas at y diben.

Mae ein hasesiad hefyd yn nodi angen i leihau nifer y maethynnau sy'n mynd i mewn i ddŵr daear.

Mae lledaenu slyri i'r tir, gweddillion treuliad, llaid carthion a gollyngiadau o elifiant carthion i'r ddaear yn ffynonellau maethynnau. Mae’r maethynnau hyn, fel cyfansoddion nitrogen a ffosffadau, yn gallu llygru dŵr daear ond gallant hefyd deithio drwy’r is-wyneb a chyrraedd ein nentydd, ein hafonydd a’n llynnoedd.  Gallant hefyd fod yn ffynhonnell halogion sy'n dod i'r amlwg yn yr amgylchedd ehangach.

Mae angen i ni wella ein dealltwriaeth o sut mae'r sylweddau hyn yn ymddwyn yn y ddaear. Bydd hyn yn llywio ein polisïau ar gyfer rheoli’r gweithgaredd mewn lleoliadau risg uchel ac yn amlygu lle mae cyflwr y tir yng Nghymru yn anaddas ar gyfer gwasgaru a gollwng elifiant.

 

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru