Rheoleiddio’r diwydiant dŵr: Pam y byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau'r canlyniad gorau i amgylchedd Cymru

Ar ddechrau blwyddyn newydd, rwyf wedi bod yn myfyrio ar ein gwaith o ddiogelu a gwarchod amgylchedd mwyaf gwerthfawr ac eithriadol Cymru, a sut y bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw yn effeithio ar yr etifeddiaeth yr ydym yn ei gadael i genedlaethau’r dyfodol.

Mae bywyd modern yn rhoi straen enfawr ar ein hamgylchedd. Ac nid yw hyn i'w weld yn amlycach nag yn ein hafonydd – anadl einioes Cymru.

Mae diddordeb y cyhoedd yng nghyflwr ein dyfroedd yn dwysáu – sy'n gwbl briodol. Mae pobl o bob rhan o'r gymdeithas yn mynnu nad yw’r sefyllfa bresennol yn ddigon da. Ac rydym ninnau yn cytuno.

Fel sefydliad o arbenigwyr amgylcheddol, mae’r diddordeb hwn nid yn unig wedi rhoi'r cyfle i ni dynnu sylw at bwysigrwydd un o’n prif asedau, ond hefyd wedi annog gwaith craffu heb ei debyg ar ein gwaith o reoleiddio’r diwydiant dŵr.

Mae galw arnom i erlyn y rhai sy’n llygru ein hafonydd yn amlach yn ogystal â chyflwyno dirwyon llymach. Rydym hefyd yn cael ein cyhuddo o beidio â delio â'r broblem yn ddigonol.

Fel Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, rwy'n cytuno'n llwyr nad yw ansawdd y dŵr cystal ag y byddem yn dymuno iddo fod ac y mae angen iddo fod, ac y gall erlyniad fod yn arf effeithiol i gosbi ac atal y difrod mwyaf difrifol a bwriadol i'n hamgylchedd. Ond rwyf hefyd yn credu'n gryf nad erlyniad yw'r unig ateb ac nad dyma'r arf gorfodi gorau ar gyfer yr amgylchedd bob amser.

Mae gennym ystod eang o arfau gorfodi y gallwn eu defnyddio. Mae'r arf yr ydym yn ei defnyddio yn dibynnu ar ffactorau megis y dystiolaeth o'r effaith ar yr amgylchedd a difrifoldeb a natur y drosedd, ynghyd â pharodrwydd y troseddwr i gydymffurfio â gofynion rheoleiddio.

Ar gyfer mân droseddau, efallai y byddwn yn canolbwyntio ar addysgu, ac efallai y byddwn yn gweld bod darparu cyngor ac arweiniad yn fwy effeithiol. Y nod yw atal yr un peth rhag digwydd eto. Trwy ddefnyddio trefniadau mwy anffurfiol, ein nod yw ysbrydoli cwmnïau ac unigolion i gymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael ag effaith amgylcheddol eu gweithredoedd. Yn ogystal â hyn, gellir cyflawni'r camau gwella hyn yn gynt.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddwyn achosion llys yn erbyn troseddwyr os ydym o'r farn mai dyma'r ymateb gorfodi cywir. Yn ystod 2022, cofnodwyd 66 o erlyniadau llwyddiannus yn erbyn cwmnïau ac unigolion am amrywiaeth o droseddau amgylcheddol yn ymwneud â gwastraff, pysgodfeydd a llygredd dŵr.

Er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo pan fyddwn yn cymryd camau o'r fath, rydym yn dilyn prosesau llym. Rhaid i ni ymateb yn gymesur a phrofi bod y ffordd yr ydym yn dewis gweithredu er budd y cyhoedd. Os yw’r cam gweithredu terfynol yn golygu erlyniad drwy’r llysoedd, fel yn achos pob trosedd, mae oedi rhwng y cyfnod pan gyflawnwyd y drosedd, y gwrandawiad llys a’r penderfyniad terfynol.

Rhaid cofio hefyd nad yw’r dirwyon a gyflwynir gan y llysoedd, er eu bod yn arfau atal defnyddiol, yn ariannu gwelliannau amgylcheddol. Trysorlys y DU sy'n derbyn yr holl ddirwyon, sy’n golygu bod yr arian yn cael ei dynnu o’r amgylchedd mewn gwirionedd tra bo'r problemau llygredd yn parhau.

Fel pob corff cyhoeddus, mae ein hadnoddau yn gyfyngedig. Rhaid inni wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut a ble i ganolbwyntio ein hymdrechion. Byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i'r camau gweithredu a fydd yn sicrhau'r canlyniad gorau i'r amgylchedd. Rhaid inni ddysgu o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda, ond hefyd o achosion pan allai dull gwahanol fod wedi arwain at ganlyniadau mwy effeithiol.

Weithiau mae hynny'n golygu canolbwyntio mwy ar fesurau rhagweithiol. Un fenter a allai ddarparu canllaw ar gyfer sut yr ydym yn gweithio yw prosiect Dalgylch Arddangos Teifi – lle byddwn yn archwilio ffyrdd newydd a gwahanol o weithio er mwyn chwilio am atebion amgylcheddol arloesol trwy gydweithio â sefydliadau cyhoeddus a phreifat, cymunedau a sefydliadau trydydd sector.

Weithiau bydd hyn yn golygu cynyddu a chryfhau ein gweithgareddau rheoleiddio, er mwyn sicrhau bod y rhai yr ydym yn eu rheoleiddio yn deall ac yn cymryd atebolrwydd a chyfrifoldeb dros gydymffurfio â rheoliadau a'u trwyddedau, sy'n allweddol er mwyn cynnal a gwella ansawdd dŵr yn ein hafonydd.

Nid ydym yn cilio pan fydd angen gweithredu. Er enghraifft, rydym wedi tynhau'r ffordd yr ydym yn rheoleiddio'r 2,300 o orlifoedd storm sy’n perthyn i gwmnïau dŵr yng Nghymru. Mae canllawiau ac amodau trwyddedu newydd bellach yn pwyso ar gwmnïau dŵr i leihau eu defnydd o orlifoedd storm, gan flaenoriaethu’r rhai a allai fod yn achosi’r niwed amgylcheddol mwyaf a mynd i’r afael â’r effaith hwnnw trwy welliant. Golyga hyn fod asedau'n cael eu cynllunio a'u rheoli yn y tymor hir er mwyn diogelu'r amgylchedd a bod angen iddynt sicrhau gwelliannau o ran eu perfformiad amgylcheddol.

Rydym yn buddsoddi mwy mewn cydymffurfiaeth rheng flaen drwy sicrhau bod mwy o swyddogion ar lawr gwlad mewn timau llygredd amaethyddol newydd, trwy sefydlu uned cydymffurfio dŵr newydd a thrwy ddangos ymrwymiad i ddefnyddio datblygiadau technolegol ar gyfer monitro effeithiol o bell.

Ein staff yw ein hased mwyaf, ac mae'n hanfodol eu bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddelio â'r bygythiadau amgylcheddol sy'n dod i'r amlwg a thechnegau rheoleiddio a monitro modern.

Fel rhan o'n hymdrech i reoleiddio yn gynyddol ac yn gynt, rydym yn awyddus i gael pwerau ychwanegol er mwyn gallu ystyried sancsiynau sifil ar gyfer ystod ehangach o droseddau amgylcheddol – sef byddai troseddwr yn talu swm y cytunwyd arno tuag at welliant amgylcheddol mewn cymuned.

Gall sancsiynau sifil megis Ymgymeriadau Gorfodi, o dan yr amgylchiadau cywir, gynnig dewis arall ymarferol yn lle erlyniaeth, yn dibynnu ar y drosedd a gyflawnwyd a'r effaith amgylcheddol. Roedd un achos o'r fath yn ymwneud â DoPower, a oedd yn gyfrifol am lygru Afon Tristion. Talodd y cwmni £9,000 tuag at waith i wella cynefinoedd pysgod, gan osgoi achos llys hir a chostus.

Mae gennym bolisi gorfodi a sancsiynau cadarn ar waith sy'n ein galluogi i fabwysiadu agwedd hyblyg tuag at reoleiddio, sy'n annog cydymffurfiaeth, yn atal troseddu ac yn darparu camau gorfodi cymesur.

Rwy’n deall pam bod amryw o'r farn mai erlyn yw'r unig ffordd i roi terfyn ar lygredd, ond fel pob corff rheoleiddio arall, rhaid i ni lunio barn ynghylch pryd i'w ddefnyddio a’r ffordd orau i wneud hynny’n effeithiol, gan nad yw erlyn ynddo’i hun yn unioni’r niwed a wneir, nac yn darparu amgylchedd gwell. Gan ddefnyddio ein pwerau rheoleiddio, ein tystiolaeth, ein cyngor a thrwy eirioli dros newid, rhaid i ni ymdrechu i geisio cyrraedd sefyllfa lle caiff llygredd ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf, lle mae diwydiannau yn blaenoriaethu eu cyfrifoldebau amgylcheddol, a lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda'i gilydd.

 

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru