Coedwig Genedlaethol Cymru – dewch i gwrdd â’ch Swyddogion Cyswllt!

Yr wythnos diwethaf, cymerodd Coedwig Genedlaethol Cymru gam cyffrous ymlaen gyda lansiad Cynllun Statws y Goedwig Genedlaethol, sy’n braenaru’r ffordd i goetiroedd nad ydynt yn eiddo i Lywodraeth Cymru i ddod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol.

I helpu i gefnogi ymgeiswyr gyda’r cynllun, mae gennym dîm pwrpasol o swyddogion cyswllt coetiroedd sydd wedi’u lleoli ledled Cymru ac sydd ar gael i drafod safleoedd posibl gyda thirfeddianwyr a rheolwyr coetiroedd â diddordeb.

Dewch i gyfarfod y tîm a dysgu mwy amdanyn nhw isod!

Stacey Delbridge, Arweinydd Tîm Coedwig Genedlaethol Cymru

Dwi’n teimlo’n lwcus iawn fy mod i’n cael helpu i ddatblygu rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru a fydd yn dod â nifer o fanteision i bobl a byd natur. Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn fenter unigryw a fydd yn darparu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac rydyn ni am weld cymaint o bobl â phosib yn rhan o’r gwaith o lunio’r adnodd hwn.

Mae ein tîm yma i siarad â chi, i’ch helpu i wireddu eich uchelgeisiau o ran coetiroedd a sicrhau bod y buddiannau y mae’ch safle coetir yn eu darparu i bobl Cymru yn cael eu cydnabod. Bydd y rhwydwaith yn cysylltu pobl, yn cryfhau gwytnwch ecosystemau ac yn darparu cymuned ar gyfer ystod amrywiol o berchnogion coetiroedd i rannu arferion gorau a chysylltu â sefydliadau partner.

Dafydd Lloyd, Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru, y Canolbarth

Dwi’n ffodus iawn o fod yn gyfrifol am Bowys a Cheredigion (y Canolbarth). Mae fy rhanbarth yn ymestyn o’r ffin â Lloegr i arfordir hardd gorllewin Cymru. Dwi’n meddwl bod potensial yr ardal hon fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yn gyffrous iawn, ac mae ganddi botensial mawr i ddod â manteision i’r ddwy sir yn ogystal â Chymru gyfan.

Fy hoff elfen o’m swydd bresennol yw bod yn berson cyswllt i berchnogion/rhanddeiliaid coetiroedd ar gyfer y cynlluniau grant cyfredol, a hefyd rhoi gwybod am y prosiectau arloesol cyfredol sydd ar y gweill ledled y wlad.

Fe wnes i ymgeisio am y swydd hon oherwydd fy mod i’n credu yng ngweledigaeth gyffrous y Goedwig Genedlaethol, yn y fantais bosibl y gallai ei chynnig i’r dirwedd ac i fioamrywiaeth, ac yn y rhyngweithio cynyddol rhwng pobl a choetiroedd.

Fy nghyngor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yw cysylltu â’ch Swyddog Cyswllt yn Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae Swyddogion Cyswllt yn gallu asesu addasrwydd coetiroedd i fod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol, a rhoi cyngor ar y grantiau posibl sydd ar gael i alluogi’r coetiroedd i wireddu canlyniadau dymunol y Goedwig Genedlaethol.

Mike Robinson, Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru, y Gogledd

Fel aelod o dîm unigryw yn CNC, dwi’n mwynhau crwydro hwnt ac yma i siarad â phobl am Goedwig Genedlaethol Cymru! Dwi byth yn blino ar weld wynebau pobl yn goleuo wrth siarad am goetir a natur a dwi’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda chymaint o bobl â phosib i wella coetiroedd Cymru er budd pobl a byd natur.

Rhodri Hewitt, Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru, Canol y De

Gyda chefndir proffesiynol mewn coedyddiaeth, dwi’n edrych ymlaen at helpu i gyflawni’r Goedwig Genedlaethol yn rhanbarth Canol y De yn ogystal â gweithio gyda’r tîm i gyflawni’n ehangach ledled Cymru.

Gan mai fy rhanbarth i yw’r un lleiaf yng Nghymru, ond yr un mwyaf poblog, mae yna gyfle unigryw i sefydlu’r rhaglen yn yr amgylcheddau amrywiol sydd ynddo. O’r ardaloedd arfordirol i’r ardaloedd amaethyddol, o’r cymoedd i ganol y ddinas, dwi’n credu y bydd y Goedwig Genedlaethol yn gwella a sefydlu’r goedwedd ledled y rhanbarth.

Owain Grant, Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru, y De-orllewin

Dwi’n ffodus iawn i fyw a gweithio yn y de-orllewin. Mae fy ardal yn cynnwys siroedd Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Dwi’n caru’r amrywiaeth eang o goetiroedd a sefydliadau dwi’n cael gweithio gyda nhw, mae bob amser yn bleser cyfarfod pobl sy’n angerddol am eu prosiectau! Dwi wastad wedi mwynhau bod yn rhan o waith cymunedol ac yn malio go iawn am fyd natur a’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu yng Nghymru.

Tom Haynes, Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru

Dwi’n credu i’r carn y gall Cymru fod yn genedl lle mae coed a choedwigoedd yn gonglfaen i’w chymdeithas, i’w hamgylchedd ac i’w heconomi. Ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o swyddi yn y diwydiant dwi wedi dod yn ymwybodol o’r angen i fuddsoddi yn adnodd coedwigoedd y presennol a’r dyfodol ledled y wlad er budd cenedlaethau’r dyfodol. Dwi’n gweld Coedwig Genedlaethol Cymru fel cyfle unigryw i berchnogion coetiroedd wella eu coetiroedd eu hunain, gan hefyd gyfrannu at symudiad ehangach yn y ffordd rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn rheoli ein coed a’n coedwigoedd.

I’r perchnogion coetiroedd hynny sy’n awyddus i fod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru, byddwn yn eu hannog i feddwl yn arloesol am beth y gall eu coedwig ddarparu a sut y gall gyfrannu at y rhaglen ehangach. Mae hyd a lled a chwmpas Coedwig Genedlaethol Cymru wedi’i gynllunio i ddal yr amrywiaeth lawn o goedwigoedd a choetiroedd, gan arddangos y llu o fanteision a gwasanaethau y gellir eu darparu. Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda pherchnogion coetiroedd i ddatblygu a gwella gwahanol agweddau ar eu coetir a’u bod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Holly Mclellan, Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru, y De-ddwyrain

A minnau wedi cael fy magu ar un o ffermydd organig Cymdeithas y Pridd, dwi’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd rheoli tir mewn ffordd barchus sy’n ystyriol o’r amgylchedd o oedran ifanc. Mae coed yn gadael eu hôl ar y dirwedd sy’n effeithio ar y dyfodol y tu hwnt i’n dyddiau ni. Maen nhw’n meithrin bioamrywiaeth ac yn cynnig llonyddwch mewn byd prysur. Mae’n bleser gweithio gyda thirfeddianwyr a grwpiau cymunedol lleol er mwyn gallu gadael gwaddol cadarnhaol i genedlaethau’r dyfodol drwy rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru. Fel y dywedodd yr awdur enwog Terry Pratchett unwaith, “Does neb yn marw go iawn tan y bydd y crychau maen nhw’n eu hachosi yn y byd yn marw” felly gadewch i ni anfarwoli’r fforest law Geltaidd gyda’n gilydd!

Sut mae cael rhagor o wybodaeth am y cynllun?

Os hoffech ddysgu mwy am Gynllun Statws y Goedwig Genedlaethol byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Gallwch e-bostio’r tîm:

StatwsCoedwigGenedlaetholCymru@cyfoethnaturiol.cymru

Cynllun Statws y Goedwig Genedlaethol - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)

Mae rhagor o ganllawiau a ffurflenni cais i’w isod:

Statws Coedwig Genedlaethol Cymru | llyw.cymru

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru