Lleoliad gwirfoddoli: Gwirfoddolwr Acwaponeg Cynrig

Fel gwirfoddolwr acwaponeg, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau gweithrediad llyfn ein tanciau pysgod a chynhyrchu planhigion dyfrol, o’r plannu i’r cynaeafu, a bwydo’r cynnyrch i’r llygod dŵr yr ydym yn eu bridio ar y safle.

Lleoliad gwirfoddoli yw hwn a gynigir fel cyfle i fagu sgiliau a rhannu profiad ac arbenigedd fel rhan o dîm CNC i’n helpu i gynnal a chyfoethogi amgylchedd naturiol gwerthfawr Cymru.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10 Mai 2024

Teitl y lleoliad

Gwirfoddolwr Acwaponeg Cynrig

Math o leoliad

Lleoliad gwirfoddoli CNC

Cyfarwyddiaeth

Gweithrediadau’r Gogledd a’r De

Tîm

Tîm yr Amgylchedd De Powys

Lleoliad

Uned Meithrin Pysgod Cynrig, Aberhonddu, Powys

Rhif y lleoliad

23.24-049

Rheolwr y lleoliad

Richard Davies

Swyddog Dyframaethu

richard.j.davies@naturalresourceswales.gov.uk

01874 665212

Dyddiad dechrau

15/05/2024

Dyddiad gorffen

15/05/2024

Patrwm gwaith

Cynhelir y rhaglen wirfoddoli rhwng 10am a 12.30pm ar ddydd Mawrth a dydd Mercher dros amrywiaeth o ddyddiadau calendr. Bydd dyddiadau cyfleus yn cael eu trefnu rhwng rheolwr y lleoliad a’r gwirfoddolwr.

 

Lleoliad

Uned Meithrin Pysgod Cynrig, Aberhonddu, Powys

Y Gymraeg

Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Saesneg.

Diben y lleoliad

Rydym wedi sefydlu system acwaponeg fel rhan o arbrawf arloesol i ailgylchu maethynnau o’n gwaith magu pysgod. Trwy bwmpio dŵr o’r tanciau pysgod i welyau pridd mewn twnnel polythen, ein nod yw tyfu detholiad o blanhigion dyfrol brodorol ar gyfer y rhywogaethau rydym yn eu bridio ar y safle. Bydd hyn yn arbed prynu cymaint o gynnyrch mewn siopau, yn arwain at lai o filltiroedd bwyd a deunydd pecynnu, ac yn darparu deiet mwy naturiol.

Fel gwirfoddolwr acwaponeg, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau gweithrediad llyfn ein tanciau pysgod a chynhyrchu planhigion dyfrol, o’r plannu i’r cynaeafu, a bwydo’r cynnyrch i’r llygod dŵr yr ydym yn eu bridio ar y safle.

Mae’r cyfle gwirfoddoli hwn yn cynnig cyfle unigryw i ymwneud â thechneg amaethu arloesol sy’n cyfuno dyframaethu â thechnoleg hydroponig fodern. Mae cynlluniau i ehangu ôl troed y system acwaponig, i gynnwys gwelyau uchel, perllan fechan, ac ardal gadwraeth gyda gardd.

Tasgau allweddol y lleoliad

Sicrhau iechyd planhigion a physgod yn y system acwaponig.

Sicrhau bod y system yn gweithio’n gywir.

Cynnal a chadw a datblygu’r ardal gadwraeth a’r berllan.

 

Cymwysterau neu wybodaeth allweddol ar gyfer y lleoliad

Mae gwybodaeth neu gymwysterau mewn un neu ragor o’r canlynol yn ddymunol:

  • Garddwriaeth
  • Amaethyddiaeth
  • Plymio
  • Tirlunio
  • Coedyddiaeth
  • Hydroponeg neu acwaponeg (ddim yn hanfodol gan y darperir hyfforddiant)
  • Trwydded yrru yn ddymunol

Yr hyn y byddwch yn ei wneud

  • Plannu: Lluosogi hadau yn effeithlon yn dymhorol a phlannu eginblanhigion mewn gwelyau pridd acwaponig, gan sicrhau gofod priodol a’r amodau tyfu gorau posibl.
  • Rheoli plâu a chwyn: Rheoli plâu a chwyn wrth weithredu ffyrdd bio-gyfeillgar o reoli plâu a chwyn.
  • Cynaeafu: Cynaeafu planhigion aeddfed yn ofalus neu gymryd toriadau i’w bwydo i’r llygod dŵr.
  • Glanhau a chynnal a chadw: Cadw amgylchedd y tŷ gwydr yn lân a’i gynnal yn dda. Mae hyn yn cynnwys glanhau offer, mannau gwaith a’r systemau hydroponig i gynnal safonau uchel o ran hylendid ac effeithlonrwydd.
  • Gweithgareddau cyffredinol acwaponeg: Cynorthwyo gyda gwahanol ddyletswyddau acwaponeg yn ôl yr angen, gan gynnwys monitro iechyd planhigion, rheoli maethynnau, a rheolaeth amgylcheddol o fewn y tŷ gwydr.
  • Hwsmonaeth pysgod: Bwydo pysgod yn y system, glanhau tanciau a bwydwyr, a gwirio’r llif a bod offer yn gweithio (rhoddir hyfforddiant ar gyfer y tasgau hyn).
  • Datblygu prosiect: Mân dirlunio a garddio o fewn ardal gadwraeth, a gwaith adeiladu ysgafn yn adeiladu gwelyau uchel, adfer llwybrau, a thocio coed a chynnal pwll bywyd gwyllt.

Y bobl y byddwch yn gweithio gyda nhw

Staff Uned Meithrin Pysgod CNC. Mae’r gofod yn y twnnel polythen acwaponig a’r adeilad magu pysgod yn caniatáu lle i bump o wirfoddolwyr ar y tro. Bydd rhai gweithgareddau yn elwa o ragor o wirfoddolwyr, h.y. codi gwelyau uchel.

Ble y byddwch yn gweithio

Bydd y lleoliad gwirfoddoli yn cael ei gynnal yn Uned Meithrin Pysgod Cynrig yn Llanfrynach, Aberhonddu. Caiff y cyfleuster hwn ei redeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal rhaglenni bridio mewn caethiwed ar gyfer rhywogaethau dyfrol sydd mewn perygl ac mae ganddo hefyd gylch gwaith ymchwil pysgodfeydd.

Mae’r system acwaponig wedi’i sefydlu mewn uned meithrin pysgod. Yr ardal ddynodedig ar gyfer gwirfoddolwyr fydd y maes parcio, corlannau bridio llygod dŵr, adeilad y tanc pysgod acwaponig, y gwelyau tyfu yn y twnnel polythen, a’r ardal gadwraeth. Mae cyfleusterau lles fel toiled a chegin ar gael i wirfoddolwyr yn yr ystafell gyfarfod.

Yr wybodaeth a sgiliau y bydd eu hangen arnoch

Garddio cyffredinol: Darparu cyngor ar adeiladu gwelyau uchel, tyfu llysiau, rheoli prysgwydd, gwaith coed ysgafn, tocio coed afalau.

Lluosogi hadau: Dewis y deunyddiau, y technegau a’r mathau cywir o bridd i luosogi hadau a phlannu eginblanhigion mewn gwelyau tyfu ar yr amser cywir.

Adnabod planhigion: Mae adnabod y mathau o blanhigion yr ydych yn ymdrin â nhw yn hanfodol ar gyfer eu gofal a’u cynnal a’u cadw.

Monitro amgylcheddol:  Ffactorau monitro fel tymheredd, pH, nitreidiau, lleithder, a lefelau carbon deuocsid, yn enwedig mewn amgylcheddau garddio dan do.

Rheoli plâu a chlefydau: Adnabod plâu a chlefydau cyffredin sy’n effeithio ar blanhigion, a gweithredu mesurau rheoli priodol.

Cydweithio mewn tîm: Rhyngweithio ag aelodau eraill o’r tîm i gynhyrchu planhigion o safon a chyfrannu at amgylchedd gwirfoddoli cadarnhaol.

Rheoli dŵr: Deall hydroleg y system a sut i gynnal y llif a’r cydbwysedd. Rheoli ansawdd dŵr yn y system acwaponig a’r gwelyau uchel.

Datrys problemau: Gallu datrys problemau sy’n codi mewn gwaith garddio traddodiadol a hydroponig, megis diffyg maeth neu ddiffyg offer.

Cyflwyno eich cais

Diolch am eich diddordeb yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Anfonwch eich Ffurflen Gais a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb gyflawn i Lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad cau, gan ddefnyddio rhif y lleoliad fel cyfeirnod

Ffurflen gais

Ffurflen monitro cydraddoldeb

Bydd rheolwr y lleoliad yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus i drafod y camau nesaf. Gall hyn fod mewn e-bost, dros alwad ffôn neu drwy wahoddiad ar gyfer cyfweliad anffurfiol. Os byddwch yn aflwyddiannus byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio pam.

Diweddarwyd ddiwethaf