Cylch Gorchwyl Pwyllgor Ystad Tir (LEC)

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Tachwedd 2023
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Medi 2024

Diben

Mae'r Pwyllgor Ystad Tir (LEC) yn bwyllgor a sefydlwyd i roi cyngor a sicrwydd amserol i’r Bwrdd mewn perthynas â’i gylch gorchwyl, ac i wneud penderfyniadau penodol ac ymgymryd â swyddogaethau penodol fel a ddirprwywyd iddo gan y Bwrdd.

 Mae cylch gorchwyl LEC felly yn cynnwys, rhoi cyngor ar sut i reoli’r tir sy’n eiddo i CNC yn gynaliadwy, gan gynnwys buddsoddi yn yr ystad, rheoli’r tir a chyflwyno cynigion ar gyfer newid defnydd.

Cwmpas

Mae’r Bwrdd yn awdurdodi LEC ac yn gofyn iddo wneud y canlynol:

  • Darparu arweinyddiaeth feddyliol a chraffu ar y modd mae CNC yn defnyddio’r tir a reolir ganddo, er mwyn sicrhau bod y tir yn cael ei ddefnyddio a'i reoli mewn modd sy'n hyrwyddo Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR).
  • Craffu a rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ar berfformiad tuag at Amcanion Llesiant y Cynllun Corfforaethol fel sy’n berthnasol i LEC.
  • Mae cwmpas yr ystad dir wedi'i gyfyngu i dir o dan berchnogaeth a/neu reolaeth CNC. Mae  cylch gwaith yr LEC yn cynnwys Ystad Goed Llywodraeth Cymru (WGWE);  Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (NNRs) sydd yng ngofal uniongyrchol CNC; canolfannau ymwelwyr; cyfleusterau hamdden neu dwristiaeth sefydledig eraill sy’n rhan o’r Ystad; defnydd hamdden o ddyfroedd mewndirol sy’n cael eu cynnwys o fewn ystad dir CNC; datblygiad masnachol cynaliadwy a/neu ddefnyddio Ystad CNC gan gynnwys, er enghraifft, gwerthu coed a thwristiaeth, hamdden a datblygiadau diwylliannol; a chronfeydd dŵr; tipiau mwyngloddiau; a mwyngloddiau metel ar Ystad CNC. Nid yw'n cynnwys rheoli asedau llifogydd, gan gynnwys ymhlith asedau eraill y cronfeydd a gwmpesir gan y swyddogaeth Perygl Llifogydd a Rheoli Digwyddiadau gyda'r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd.
  • Bydd LEC yn ategu ac yn osgoi gorgyffwrdd â chylch gwaith y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig (PrAC). Mae gan y PrAC gyfrifoldebau penodol mewn perthynas â dynodi ac ardaloedd gwarchodedig a gwaith achos cysylltiedig ac ar gyfer prif ffrydio "SMNR" drwy'r cyd-destun hwn. Yn benodol, bydd y PrAC yn gyfrifol am benderfyniadau lefel is-bwyllgor ar ddynodi ardaloedd o Ystad CNC.

Cyfrifoldebau

Cyfifoldebau LEC yw:

  • Hyrwyddo ffyrdd arloesol a blaengar o ddefnyddio ac addasu ystad tir CNC i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a lleihau llygredd gymaint ag sydd bosibl;
  • Defnyddio ei awdurdod, ei brofiad a'i ddylanwad cyfunol ynghyd â phartneriaid allanol megis cymunedau lleol i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd a lleihau llygredd gymaint ag sydd bosibl;
  • Ystyried a chynghori ar gynigion lefel uchel ar gyfer datblygu’r ystad tir yn fasnachol gynaliadwy, gan gynnwys arallgyfeirio a hyrwyddo mentrau gwyrdd, gan ganolbwyntio ar bobl, ar y blaned, ac ar ffyniant;
  • Rhoi cyngor a chyfeiriad wrth ddatblygu strategaeth a pholisi mewn perthynas â'r defnydd uniongyrchol o dir gan y Llywodraeth ar gyfer SMNR;
  • Darparu cyngor lefel uchel ar ddatblygu a chyflawni Cynllun y Gwasanaeth Stiwardiaeth Tir ac elfennau o'r Cynllun Gwasanaeth Masnachol sy'n gysylltiedig ag Ystad CNC, gan gynnwys y fframwaith risg Stiwardiaeth Tir a'r risgiau perthnasol yn y fframwaith risg Masnachol;
  • Materion rheoli ystad tir allweddol eraill ar sail angen.

Cyfarfodydd

Bydd LEC yn amcanu i gyfarfod teirgwaith y flwyddyn, gyda chrynodeb rheolaidd o’r materion allweddol a goladwyd ar-lein er mwyn eu cyfleu i’r Bwrdd, ac i gynorthwyo â'r cylch cyllidebol. Gellir galw cyfarfodydd ychwanegol yn ôl y gofyn.

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cefnogi yn bennaf gan dîm yr Ysgrifenyddiaeth ac aelodau o'r tîm Stiwardiaeth Tir a’r tîm Datblygiad Masnachol Cynaliadwy ac arbenigwyr pwnc eraill yn ôl y gofyn.

Aelodaeth

Yr Athro Calvin Jones fydd yn cadeirio'r LEC.

 Bydd yr aelodaeth yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o'r Bwrdd (gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor).

Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu; Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Pennaeth Stiwardiaeth Tir; a bydd Pennaeth Datblygu Masnachol yn mynychu cyfarfodydd fel arfer hefyd.

Diweddarwyd ddiwethaf