Cyfarfod y Bwrdd 28 Ionawr 2022

Os hoffech arsylwi ar ein cyfarfod Bwrdd, cysylltwch â nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  a gofynnwch am fynediad i'r cyfarfod. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gyfer Cymraeg ar gael, rhowch wybod i ni os oes angen hyn arnoch yn eich e-bost.

Bydd sesiwn gyhoeddus cyfarfod Bwrdd CNC yn cael ei hailgyflwyno ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 28 Ionawr 2022.

Bydd y cyfarfod Bwrdd yn cael ei gynnal ar Skype. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy’n awyddus i arsylwi’r sesiwn gyhoeddus ymuno drwy Skype ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ryngweithiol gyda’r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol ddod i ben.

Er mwyn gweld beth a fydd yn cael ei drafod, gweler yr agenda isod: (gall newid)

Amser y Cyfarfod - 9:30AM i 16:10PM - 28 Ionawr 

Teitl y cyfarfod:  Cyfarfod Bwrdd CNC, Diwrnod 2 – Sesiwn Gyhoeddus

9.30

(5 munud)

1. Agor y Cyfarfod

  • Croeso
  • Datganiadau o fuddiant
  • Egluro’r dull o gynnal y cyfarfod 

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) 

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

9.35

(5 munud)

2. Adolygu’r Cofnodion a’r Log Gweithredu

2A. Adolygu Cofnodion y Cyfarfod Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd

2B. Adolygu’r Log Gweithredu Cyhoeddus

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) 

CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r log gweithredu.

9.40

(10 munud)

3. Diweddariad gan y Cadeirydd

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw 

Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd.

9.50

(20 munud)

4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr

Noddwr a Chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Crynodeb: NODI’r sefyllfa gyfredol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau allweddol.

Cyfeirnod y papur: 22-01-B20

10.10

(30 munud)

5. Adroddiadau Diweddaru gan y Pwyllgorau

Noddwyr a chyflwynwyr:

Cadeiryddion y Pwyllgorau 

Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – 16 Rhagfyr

Cyfeirnod y Papur: 22-01-B08

Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – 18 Ionawr Y Pwyllgor Cyllid – 7 Rhagfyr

Cyfeirnod y Papur: 22-01-B09

Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd – 13 Ionawr

Cyfeirnod y Papur: 22-01-B21

Y Pwyllgor Pobl a Chyflogau – 10 Rhagfyr

Cyfeirnod y Papur: 22-01-B10

Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – ni chynhaliwyd cyfarfod 

Crynodeb: NODI’R diweddariadau gan bwyllgorau’r Bwrdd, o’r cyfarfodydd

a gynhaliwyd a thu hwnt.

10.40

(20 munud)

6. Gyda’n Gilydd – Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant CNC

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflwynwyr: Steve Burton, Pennaeth Rheoli Pobl; Julia Allen, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Adnoddau Dynol; Lyn Williams, Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl 

Crynodeb: CYMERADWYO Gyda’n Gilydd – Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant CNC 

Cyfeirnod y papur: 22-01-B11

11.00

(15 munud)

Egwyl

11.15

(20 munud)

7. Strategaeth Pobl CNC

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflwynydd: Steve Burton, Pennaeth Rheoli Pobl

Crynodeb: CYMERADWYO Strategaeth Pobl CNC Cyfeirnod y papur: 22-01-B12

11.35

(30 munud)

8. Pobl, Planed a Ffyniant a Diweddariad Gwerth Cymdeithasol

Noddwr: Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Masnachol

Cyflwynydd: Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy; Vernon Lambert, Rheolwr Caffael 

Crynodeb: NODI cyflwyniad yn cyflwyno’r dull Pobl, Planed a Ffyniant, ac yna diweddariad llafar ar Werth Cymdeithasol mewn Caffael. 

Cyflwyniad

12.05

(45 munud)

9. Diweddariad am Iechyd Coed gan gynnwys Cyflwyniad ar

Phytophthora pluvialis

Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflwynydd: Andrew Wright, Uwch Gynghorydd Arbenigol, Iechyd Planhigion; Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir 

Crynodeb: NODI cyflwyniad ar y brigiad diweddar o achosion o’r clefyd coed Phytophthora pluvialis yng nghyd- destun diweddariad ehangach ar faterion iechyd coed. 

Cyfeirnod y papur: 22-01-B13

12.50

(5 munud)

10. Newidiadau arfaethedig i’r Cynllun Statudol a Chyfreithiol

Noddwr: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd 

Crynodeb: CYMERADWYO y newidiadau arfaethedig i’r Cynllun Statudol a Chyfreithiol gan y Bwrdd Busnes Rheoleiddio 

Cyfeirnod y papur: 22-01-14

12.55

(60 munud)

Cinio

13.55

(60 munud)

11. Deilliannau Trafodaethau Strategol

Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflwynwyr: Ruth Jenkins, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol; Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu; Mark Squire, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy 

Crynodeb: NODI’r themâu a’r deilliannau y gellir gweithredu arnynt ac a godwyd yn nhrafodaethau strategol blaenorol yn y Bwrdd. 

Cyflwyniad

14.55

(20 munud)

12. Dogfen Fframwaith Llywodraeth Cymru

Noddwr: Syr David Henshaw

Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd 

Crynodeb: CYMERADWYO’r Ddogfen Fframwaith newydd rhwng CNC a Llywodraeth Cymru. 

Cyfeirnod y papur: 22-01-B15

15.15

(15 munud)

Egwyl

15.30

(5 munud)

13. Rhagolwg y Bwrdd

Noddwr: Syr David Henshaw

Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd 

Cyfeirnod y papur: 22-01-B16

15.35

(5 munud)

14.  UNRHYW FATER ARALL

I’w gymeradwyo drwy ohebiaeth:

a)    Strategaeth Gwrth-dwyll Cyfeirnod y papur: 22-01-B17 

b)    Cyllideb Ardaloedd Draenio Mewnol Cyfeirnod y papur: 22-01-B18 

Er gwybodaeth drwy ohebiaeth:

c)    Diweddariad am Ddatganiadau Ardal Cyfeirnod y papur: 22-01-B19

 

Diwedd Cyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd

15.40

(30 munud)

15. Sesiwn holi ac ateb cyhoeddus

16.10

Diwedd y cyfarfod

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Papurau Bwrdd PDF [6.7 MB]
Cofnodion a gadarnhawyd PDF [183.6 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf