Cyfarfod y Bwrdd 26fed o Dachwedd 2020

Bydd sesiwn gyhoeddus cyfarfod Bwrdd CNC yn cael ei hailgyflwyno ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 26 o Dachwedd 2020.

Bydd y cyfarfod Bwrdd yn cael ei gynnal ar Skype. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy’n awyddus i arsylwi’r sesiwn gyhoeddus ymuno drwy Skype ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ryngweithiol gyda’r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol ddod i ben.

Er mwyn gweld beth a fydd yn cael ei drafod, gweler yr agenda isod: (gall newid)

Amserlen 10:45 i 13:50 : Dydd Iau 26fed o Dachwedd

Amser Rhif Eitem Eitem

10:45

1

Agor y Cyfarfod

  • Croeso

  • Datganiad o Fuddiannau

  • Egluro ymddygiad y cyfarfod

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

10:50

2

Adolygu'r Cofnodion a'r Cofnod Gweithredu - i gadarnhau - gofynnwyd am ddigwydiadau trwy ohebiaeth ymlaen llaw

  1. Adolygu Cofnodion y Cyfarfod Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 16 Medi
  2. Adolygu'r Cofnod Gweithredu Cyhoeddus

10:55

3

Busnes y Cadeirydd

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw

Crynodeb: Y Cadeirydd i roi diweddariad i'r Bwrdd

11:05

4

Adroddiad y Prif Weithredwr

Noddwr a Chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Crynodeb: Rhoi diweddariad i'r Bwrdd ar weithgareddau allweddol cyfredol

11:25

5

Adroddiadau Diweddaru y Pwyllgorau

Noddwr a Chyflwynwyr: Cadeiryddion y Pwyllgorau

Y Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad – 10 Tachwedd

Y Pwyllgor Rheoli Risgiau Llifogydd – 26 Hydref

Crynodeb: Rhoi diweddariad i’r Bwrdd ar weithgareddau diweddar y pwyllgorau

11:40

6

Dangosfwrdd perfformiad y Cynllun Busness 2020-21 - Diweddariad Ch2

Noddwr: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Cyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr, Y Tîm Gweithredol

Crynodeb:

  • Craffu ar adroddiad Ch2

  • Argymhellion llwyth gwaith y gaeaf Ch3

 12:10

7

Diweddariad ar Adferiad Gwyrdd (llafa)

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth Gorfforaethol a Datblygu

Cyflwynydd: Sarah Williams, Pennaeth Gweledigaeth 2050 a'r Strategaeth Gorfforaethol

Crynodeb: Darparu diweddariad ar y gwaith Adferiad Gwyrdd, ynghyd â myfyrdodau ac arsylwadau

12:30

8

Cyflwyniad Lle

Noddwr: Gareth O’Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Cyflwynydd: Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau De-orllewin Cymru

Crynodeb: Darparu trosolwg o'r gweithgareddau allweddol yn ardal De-orllewin Cymru.

13:00

 

Diwedd cyfarfod y Bwrdd

13:00

 

Egwyl

13:20

9

Sesiwn Holi ac Ateb Ryngweithiol gyda'r Cyhoedd

13:50

 

Diwedd

Os hoffech arsylwi’r Cyfarfod Bwrdd ym mis Medi, cysylltwch â nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a gofyn am fynediad i’r cyfarfod. Bydd darpariaeth cyfieithu ar y pryd Cymraeg ar gael, gadewch inni wybod a fyddwch angen hyn yn eich e-bost.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf