Cyfarfod y Bwrdd 23 Mawrth 2017

Lleoliad:  YMCA, Casnewydd

Amser: 09:00yb - 1:00yp

Ar ddiwedd y cyfarfod bydd y Cadeirydd yn derbyn cwestiynau oddi wrth aelodau o’r cyhoedd.  

Byddem yn hapus i dderbyn unrhyw gwestiwn rydych yn bwriadu gofyn yn y cyfarfod o flaen llaw. Ein hymrwymiad ar y diwrnod yw gwrando ac ymateb i unrhyw beth y gallwn neu fynd a'r cwestiwn i ffwrdd gyda ni a danfon ateb atoch faes o law.

Bydd yr holl gwestiynau a godwyd yn ystod y sesiwn hon yn cael eu cofnodi fel atodiad i’n cofnodion a gyhoeddir ar ein gwefan.

Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

Agenda

  1. Busnes Safonol y Bwrdd
  2. Y Diweddaraf am Lesiant, Iechyd a Diogelwch
  3. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Adroddiad Blynyddol a Chynllun Gweithredu
  4. Pren – Argaeledd Tymor Canol i Dymor Hir
  5. Cynllun Busnes a Chyllideb 2017-18
  6. Adroddiad Diweddaru Cyllid – Blwyddyn Ariannol 2016-17
  7. Datganiad Llesiant
  8. Y diweddaraf ar oblygiadau ar reoli adnoddau naturiol CNC
  9. Adroddiadau’r Bwrdd
  10. Adroddiad y Prif Weithredwr
  11. Unrhyw Fater Arall
  12. Cloi’r cyfarfod a chwestiynau gan y cyhoedd

Os hoffech chi gopi o atodiad i bapur, cysylltwch â Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cofnodion y Bwrdd wedi eu Cadarnhau 23 Mawrth 2017 PDF [386.6 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf