Cyfarfod y Bwrdd 21 Medi 2023

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Amser y cyfarfod: 9:00 – 11:15

Amser

Eitem

9.00 (5 munud)

1. Agor y cyfarfod

  • Croeso
  • Datgan buddiannau
  • Egluro’r dull o gynnal y cyfarfod

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

9.05 (5 munud)

2. Adolygu’r Cofnodion a’r Log Gweithredu

2A. Adolygu Cofnodion y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf

2B. Adolygu’r Log Gweithredu Cyhoeddus

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r log gweithredu.

9.10 (5 munud)

3. Diweddariad gan y Cadeirydd

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw

Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd.

9.15 (15 munud)

4. Adroddiad y Prif Weithredwr

Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Crynodeb: NODI’R sefyllfa gyfredol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau allweddol.

Cyfeirnod y Papur: 23-09-B05

09:30 (20 munud)

5. Adroddiadau Diweddaraf y Pwyllgorau a Fforymau (trwy eithriad)

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau

Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – 7 Medi
Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth
Y Pwyllgor Cyllid – 14 Medi
Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd
Y Pwyllgor Ystad Tir
Y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid - 13 Medi
Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig

Diweddariadau Fforwm
Fforwm Rheoli Tir Cymru
Cyfeirnod y Papur: 23-09-B07
Fforwm Pysgodfeydd Cymru
Fforwm Rheoli Dŵr Cymru
Fforwm Mynediad Cenedlaethol i Gymru
Cyfeirnod y Papur: 23-09-B08

Crynodeb: NODI’R diweddariadau gan bwyllgorau’r Bwrdd, o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd a thu hwnt.

09:50 (10 munud)

6. Adroddiad Perfformiad Ariannol

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid

Cyflwynydd: Andrea Morgan, Rheolwr Tîm Cyllid Busnes 1

Crynodeb: CYMERADWYO'R sefyllfa ariannol ddiweddaraf

Cyfeirnod y Papur: 23-09-B09

10.00 (20 munud)

7. Adroddiad Chwarter 1 Dangosfwrdd Perfformiad Cynllun Busnes ac Adroddiad Chwarter 1 Perfformiad Mewnol

Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Yn bresennol: Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a'r Swyddfa Rheoli Rhaglenni; Kirsten Hughes, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad; Sue Ginley, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad

Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Chwarter 1 Dangosfwrdd Perfformiad Cynllun Busnes ac Adroddiad Chwarter 1 Perfformiad Mewnol

Cyfeirnod y Papur: 23-09-B10

10.20 (20 munud)

Egwyl

10:40 (5 munud)

8. Aelodaeth Pwyllgor y Bwrdd

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflwynydd: Victoria Painter, Pennaeth Dros Dro ar gyfer Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd

Crynodeb: CYMERADWYO'R diwygiadau i aelodaeth Pwyllgor y Bwrdd

Cyfeirnod y Papur: 23-09-B11

10:45 (5 munud)

9. Eitemau i'w Cymeradwyo

a) Adroddiad Chwarter 1 Lles, Iechyd a Diogelwch

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Crynodeb: Cymeradwyo Adroddiad Ch1 Lles, Iechyd a Diogelwch

Cyfeirnod y Papur: 23-09-B12

b) Datganiad Caethwasiaeth Fodern

Noddwr: Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Masnachol

Cyflwynydd: Vernon Lambert, Rheolwr Caffael

Crynodeb: CYMERADWYO'R Datganiad Caethwasiaeth Fodern

Cyfeirnod y Papur: 23-09-B13

10.50 (5 munud)

10. Unrhyw fater arall

10.55

Diwedd y Cyfarfod

10.55 (20 munud)

Sesiwn holi ac ateb cyhoeddus

11.15

Diwedd y Cyfarfod Cyhoeddus

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf