Cyfarfod y Bwrdd 20 Medi 2018

Lleoliad: Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP

Amser: 11:30 - 14:30 

Ar ddiwedd y cyfarfod bydd y Cadeirydd yn derbyn cwestiynau oddi wrth aelodau o’r cyhoedd. 

Byddem yn hapus i dderbyn unrhyw gwestiwn rydych yn bwriadu gofyn yn y cyfarfod o flaen llaw. Ein hymrwymiad ar y diwrnod yw gwrando ac ymateb i unrhyw beth y gallwn neu fynd a'r cwestiwn i ffwrdd gyda ni a danfon ateb atoch faes o law. Anfonwch bob cwestiwn cyn 17 Medi. Fel arall, bydd modd ichi ofyn cwestiynau ar y diwrnod.

Bydd yr holl gwestiynau a godwyd yn ystod y sesiwn hon yn cael eu cofnodi fel atodiad i’n cofnodion a gyhoeddir ar ein gwefan.

Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

Agenda

  1. Croeso
  2. Cyflwyniad lleol
  3. Cofnodion a logiau gweithredu o gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd yn gyhoeddus ym mis Gorffennaf
  4. Adolygiad o'r defnydd o arfau tanio ar Ystad Llywodraeth Cymru  
  5. Adroddiad Perfformiad Chwarter 1
  6. Cau'r cyfarfod yn ffurfiol
  7. Adolygiad/sylwadau gan y cyhoedd

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cofnodion Cadarnhau PDF [514.9 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf