Cyfarfod y Bwrdd 20fed o Ionawr 2021

Bydd sesiwn gyhoeddus cyfarfod Bwrdd CNC yn cael ei hailgyflwyno ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 20fed o Ionawr 2021.

Bydd y cyfarfod Bwrdd yn cael ei gynnal ar Skype. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy’n awyddus i arsylwi’r sesiwn gyhoeddus ymuno drwy Skype ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ryngweithiol gyda’r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol ddod i ben.

Er mwyn gweld beth a fydd yn cael ei drafod, gweler yr agenda isod: (gall newid)

Amser y Cyfarfod - 09:30 i 13:00 : Mercher 20fed o Ionawr

Amser Rhif Eiterm Eitem

09:30

1

Agor y Cyfarfod

  • Croeso
  • Datganiad o Fuddiannau
  • Egluro ymddygiad y cyfarfod

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

09:35

2

Adolygu’r Cofnodion a’r Cofnod Gweithredu – i gadarnhau – gofynnwyd am ddiwygiadau trwy ohebiaeth ymlaen llaw

  1. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 26fed o Dachwedd
  2. Adolygu’r Cofnod Gweithredu Cyhoeddus

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

09:40

3

Busnes y Cadeirydd

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw

Crynodeb: Y Cadeirydd i roi diweddariad i'r Bwrdd

09:45

4

Adroddiad y Prif Weithredwr

Noddwr a Chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Crynodeb: Rhoi diweddariad i’r Bwrdd ar weithgareddau allweddol cyfredol

Cyflwyniad yn Unig

10:15

5

Adroddiadau Diweddaru’r Pwyllgorau

Noddwyr a Chyflwynwyr: Cadeiryddion y Pwyllgorau

  • Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – Dim diweddariad. Dim cyfarfod ers y Bwrdd diwethaf.
  • Y Pwyllgor Cynghori Tystiolaeth 1 Rhagfyr Cyfeirnod y Papur: 21-01-B01
  • Y Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad – Dim Cyfarfod
  • Y Pwyllgor Rheoli Adolygu Llifogydd 7 Rhagfyr a 7 Ionawr (Ar lafar)
  • Y Pwyllgor Pobl a Chyflogau – 11 Rhagfyr (Cyhoeddus, heb eu cadarnhau) Cyfeirnod y Papur: 21-01-B02
  • Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – Dim cyfarfod

Crynodeb: Rhoi diweddariad i’r Bwrdd ar weithgareddau diweddar y pwyllgorau

10:25

6

Strategaeth Profiad Cwsmeriaid ac Ymgysylltu

Noddwr: Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Cyflwynwyr: Naomi Lawrence, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid, Catrin Hornung, Pennaeth Cyfathrebu, Kate Evans, Materion Cyhoeddus/Ysgrifennydd Personol i’r Prif Swyddog Gweithredol

Crynodeb: I’r Bwrdd gymeradwyo cyfeiriad y Strategaeth Profiad Cwsmeriaid ac Ymgysylltu

Cyfeirnod y Papur: 21-01-B03

11:10

 

Egwyl

11:30

7

Cyflwyno Lle: De-ddwyrain Cymru

Noddwr: Gareth O’Shea, Pennaeth Gweithrediadau

Cyflwynydd: Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De-ddwyrain Cymru

Crynodeb: Darparu trosolwg o'r gweithgareddau allweddol yn rhanbarth De-orllewin Cymru

 

 

Diwedd Cyfarfod y Bwrdd

12:30

8

Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Cyhoedd

13:00

 

Egwyl Ginio

Os hoffech arsylwi’r Cyfarfod Bwrdd ym mis Medi, cysylltwch â nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a gofyn am fynediad i’r cyfarfod. Bydd darpariaeth cyfieithu ar y pryd Cymraeg ar gael, gadewch inni wybod a fyddwch angen hyn yn eich e-bost.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf