Cyfarfod y Bwrdd 2 Chwefror 2024

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Amser y cyfarfod: 9:00 – 11:05

Amser

Eitem

09:00

(5 munud)

Eitem 1. Agor y Cyfarfod

  • Croeso
  • Datganiadau o fuddiant
  • Egluro’r dull o gynnal y cyfarfod

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant

09:05

(5 munud)

Eitem 2. Adolygu’r Cofnodion a’r Log Gweithredu

2A. Adolygu Cofnodion y Cyfarfod Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd

2B. Adolygu’r Log Gweithredu Cyhoeddus

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r Log Gweithredu

09:10

(5 munud)

Eitem 3. Diweddariad gan y Cadeirydd

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd

09:15

(15 munud)

Eitem 4. Adroddiad y Prif Weithredwr

Noddwr a Chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Crynodeb: NODI’r sefyllfa gyfredol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau allweddol

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B04

09:30

(20 munud)

Eitem 5. Adroddiadau Diweddaru’r Pwyllgorau a Fforymau

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y Pwyllgorau

  • Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – 15 Rhagfyr

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B05

  • Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – 16 Ionawr
  • Y Pwyllgor Cyllid – 7 Rhagfyr a 10 Ionawr

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B06

  • Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd – 11 Ionawr

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B07

  • Y Pwyllgor Ystad Tir
  • Y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid – 12 Rhagfyr

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B08

  • Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig
  • Fforwm Rheoli Tir Cymru

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B09

  • Fforwm Pysgodfeydd Cymru

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B10

  • Fforwm Rheoli Dŵr Cymru

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B11

  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol i Gymru

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B12

Crynodeb: NODI'r diweddariadau gan Bwyllgorau'r Bwrdd a Fforymau CNC, o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd a thu hwnt

09:50

(15 munud)

Eitem 6. Adroddiad Perfformiad Ariannol

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid

Crynodeb: CYMERADWYO'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B13

10:05

(5 munud)

Eitem 7. Cyllideb Ardaloedd Draenio Mewnol

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid

Crynodeb: CYMERADWYO'r gyllideb ar gyfer yr Ardaloedd Draenio Mewnol

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B14

10:10

(30 munud)

Eitem 8. Cynllun Addasu CNC

Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu; Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Cyflwynwyr: Mary Lewis, Rheolwr Mannau Cynaliadwy, Tir a Môr; Clive Walmsley, Uwch Gynghorydd Arbenigol, Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio; Lucia Watts, Cynghorydd Arbenigol – Risg Hinsawdd ac Addasu i’r Hinsawdd

Yn bresennol: Gabrielle Torkington, Arweinydd y Tîm Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio; Harrhy James, Cynghorydd Arbenigol – Risg Hinsawdd ac Addasu i’r Hinsawdd

Crynodeb: CYMERADWYO'r Cynllun Addasu

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B15

10:40

(0 munud)

Eitem 9. Eitemau i'w Cymeradwyo

a. Adroddiad Llesiant, Iechyd a Diogelwch Chwarter 2

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Crynodeb: CYMERADWYO'r Adroddiad Llesiant, Iechyd a Diogelwch ar gyfer Chwarter 2

Cyfeirnod y Papur: 24-01-B16

b. Diwygiad i’r Cynllun Statudol a Chyfreithiol

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Crynodeb: NODI cymeradwyaeth y Bwrdd trwy ohebiaeth ar gyfer y llinell newydd sydd wedi ei hychwanegu at y Cynllun Statudol a Chyfreithiol i nodi person cymwysedig a all gymeradwyo eithriadau o’r ddyletswydd i ddatgelu gwybodaeth y gofynnir amdani mewn cais Rhyddid Gwybodaeth, lle gallai’r wybodaeth honno fod yn anfanteisiol i arfer materion cyhoeddus.

10:40

(5 munud)

Eitem 10. Unrhyw Fater Arall

10:45

Cau’r Cyfarfod

10:45

(20 munud)

Sesiwn Holi ac Ateb Cyhoeddus

11:05

Cau'r Cyfarfod Cyhoeddus

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf