Cyfarfod y Bwrdd 19 a 20 Mai 2021

Bydd sesiwn gyhoeddus cyfarfod Bwrdd CNC yn cael ei hailgyflwyno ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 20 Mai 2021.

Bydd y cyfarfod Bwrdd yn cael ei gynnal ar Skype. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy’n awyddus i arsylwi’r sesiwn gyhoeddus ymuno drwy Skype ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ryngweithiol gyda’r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol ddod i ben.

Er mwyn gweld beth a fydd yn cael ei drafod, gweler yr agenda isod: (gall newid)

Amser y Cyfarfod - 9:30AM i 12:20PM - 20 Mai

Amser Rhif Eitem Eitem

9:30

1

Agor y cyfarfod

  • Croeso
  • Datgan buddiannau
  • Egluro’r dull o gynnal y cyfarfod

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

9:35

2

Adolygu’r Cofnodion a’r Cofnod Gweithredu

  1. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 24 Mawrth
  2. Adolygu’r Cofnod Gweithredu Cyhoeddus

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

9:40

3

Diweddariad gan y Cadeirydd

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw

Crynodeb: Y Cadeirydd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd

9:50

4

Adroddiad y Prif Weithredwr

Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Crynodeb: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau allweddol cyfredol

Cyflwyniad yn unig

10:10

5

Adroddiad diweddaru y pwyllgorau

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau

  • Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – 22 Ebrill. Cyfeirnod y papur: 21-05-B08
  • Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – 16 Ebrill – ar agenda’r diwrnod preifat
  • Y Pwyllgor Cyllid – 20 Ebrill. Cyfeirnod y papur: 21-05-B09
  • Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd - 23 Ebrill. Cyfeirnod y papur: 21-05-B10
  • Y Pwyllgor Pobl a Thaliadau – Amh
  • Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – Amh.

Crynodeb: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau diweddar y pwyllgorau

10:30

6

Adolygiad blynyddol o’r Cylch Gorchwyl

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd

Crynodeb: Cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Bwrdd, Pwyllgorau’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol

Cyfeirnod y papur: 21-05-B11

10:40

 

Egwyl

10:55

7

Newidiadau i’r Cynllun Dirprwyo Statudol a Chyfreithiol

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd

Crynodeb: Cymeradwyo newidiadau i’r Cynllun Dirprwyo Statudol a Chyfreithiol

Cyfeirnod y papur: 21-05-B12

11:05

8

Cyflwyniad ‘Lle’

Noddwr: Gareth O’Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau

Cyflwynydd: Mike Evans, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru; Aneurin Cox, Rheolwr Gweithrediadau Tir ac Asedau; Andy Robinson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd Canol De Cymru; Tim England, Rheolwr Gweithrediadau (Rheoli Llifogydd a Dŵr); Scott Squires, Rheolwr Cyflawni Prosiectau a Rhaglenni; Fiona Abbott, Arweinydd Tîm, Polisi Ymbelydredd a Diwydiant

Crynodeb: Darparu trosolwg ar weithgareddau allweddol yn rhanbarth Canol De Cymru

   

Diwedd cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd

11:50

9

Sesiwn holi ac ateb gyhoeddus

12:20

 

Diwedd y cyfarfod

 

Os hoffech arsylwi’r Cyfarfod Bwrdd, cysylltwch â nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a gofyn am fynediad i’r cyfarfod. Bydd darpariaeth cyfieithu ar y pryd Cymraeg ar gael, gadewch inni wybod a fyddwch angen hyn yn eich e-bost.​

Diweddarwyd ddiwethaf