Cyfarfod y Bwrdd 15fed a 16fed o Fedi 2020

Bydd sesiwn gyhoeddus cyfarfod Bwrdd CNC yn cael ei hailgyflwyno ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 16 Medi 2020.

Bydd y cyfarfod Bwrdd yn cael ei gynnal ar Skype. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy’n awyddus i arsylwi’r sesiwn gyhoeddus ymuno drwy Skype ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ryngweithiol gyda’r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol ddod i ben.

Er mwyn gweld beth a fydd yn cael ei drafod, gweler yr agenda isod: (gall newid)

Amser 9:00 i 11:15 - Mercher 16fed o Fedi

Time Item Number Item

9:00

1

Cyfarfod Agored

9:15

2

Busnes y Cadeirydd

9:25

3

Adroddiad y Prif Weithredwr

9:45

4

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

10:00

5

Dangosfwrdd Perfformiad Cynllun Busnes 2020/21 C1 (gan gynnwys Diweddariad Gwasanaeth Cwsmeriaid dwywaith y flwyddyn)

10:40

 

Egwyl

 

 

Diwedd Cyfarfod y Bwrdd

10:55

6

Sesiwn Holi ac Ateb Ryngweithiol gyda’r cyhoedd

11:55

 

Cloi’r Cyfarfod

Os hoffech arsylwi’r Cyfarfod Bwrdd ym mis Medi, cysylltwch â nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a gofyn am fynediad i’r cyfarfod. Bydd darpariaeth cyfieithu ar y pryd Cymraeg ar gael, gadewch inni wybod a fyddwch angen hyn yn eich e-bost.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cofnodion 16 Medi 2020 PDF [163.1 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf