Cyfarfod y Bwrdd 13 Gorffennaf 2022

Os hoffech arsylwi ar ein cyfarfod Bwrdd, cysylltwch â nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  a gofynnwch am fynediad i'r cyfarfod. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gyfer Cymraeg ar gael, rhowch wybod i ni os oes angen hyn arnoch yn eich e-bost.

Cynhelir y sesiwn gyhoeddus Bwrdd CNC ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 13 Gorffennaf 2022.

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd sy’n i arsylwi’r sesiwn gyhoeddus ymuno ar Teams. Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda bod amseroedd ar yr agenda yn gallu newid ar y diwrnod.Nid oes sesiwn holi ac ateb gyhoeddus wedi'i threfnu y tro hwn. Ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, mae Tîm Gweithredol CNC yn parhau i ystyried atebion posibl i wella'r broses, a fydd yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid i bennu'r gwelliant gorau a mwyaf cyfrifol yn gymdeithasol.

Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Er mwyn gweld beth a fydd yn cael ei drafod, gweler yr agenda isod: (gall newid)

Amser y Cyfarfod - 12:35AM i 16:55PM - 13 Gorffennaf 2022

Amser

Eitem

12.35

(5 mun)

1. Cyfarfod Agored

  • Croeso
  • Datganiad o Fuddiannau
  • Esbonio sut y cynhelir y cyfarfod 

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) 

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

12.40

(5 mun)

2. Adolygu’r Cofnodion a’r Cofnod Camau Gweithredu 2A. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 26 Mai 2B. Adolygu'r Cofnod Camau Gweithredu Cyhoeddus Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) 

CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod diwethaf a'r cofnod camau gweithredu.

12.45

(5 mun)

3. Diweddariad gan y Cadeirydd

Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw

Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i'r Bwrdd.

12.50

(15 mun)

4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr

Noddwr a Chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr 

Crynodeb: NODI'r sefyllfa bresennol a diweddaru'r Bwrdd ar weithgareddau allweddol. 

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B07

13.05

(20 mun)

5. Adroddiadau Diweddaru gan y Pwyllgorau

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y Pwyllgorau 

Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Ansawdd – 9 Mehefin a 8 Gorffennaf

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B08

Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – 7 Mehefin

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B09

Y Pwyllgor Cyllid -10 Mehefin

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B10

Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd - 1 Gorffennaf Y Pwyllgor Pobl a Thaliadau - 24 Mehefin

Cyfeirnod y Papur:  22-07-B11

Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig - 21 Mehefin

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B12

Fforwm Rheoli Tir Cymru Cyfeirnod y Papur: 22-07-B13

Crynodeb: NODI'r diweddariadau gan bwyllgorau'r Bwrdd, y tu mewn a'r tu allan i unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd.

13.25

(15 mun)

6. Diweddariad ar Gyllid

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid

Crynodeb: NODI'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf Cyfeirnod y Papur: 22-07-B14

13.40

(30 mun)

7. Adroddiad Diwedd Blwyddyn Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes 2021/22

Noddwr a Chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Mynychwyr: Caroline Hawkins, Rheolwr Cynllunio Corfforaethol, Perfformiad ac Asesu Strategol, Sarah Williams, Pennaeth y Strategaeth Gorfforaethol a'r Swyddfa Rheoli Rhaglenni; Sue Ginley, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad

Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Diwedd Blwyddyn Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes 2021/22

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B15

14.10

(15 mun)

Egwyl

14.25

(20 mun)

8. Cyfraniad CNC at y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol ar gyfer Adnoddau Dŵr a Gwella Ansawdd Dŵr (PR24)

Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflwynwyr: Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru; Ruth Johnston, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Strategaeth Ddŵr; Natalie Hall, Rheolwr, Adfer o Lifogydd

Crynodeb: TRAFOD cynllun busnes cwmni dŵr Ofwat a chyfraniad CNC at y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol ar gyfer Adnoddau Dŵr a Gwella Ansawdd Dŵr (PR24) 

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B16

14.45

(40 mun)

9. Diweddariad ar Ansawdd Dŵr

Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflwynwyr: Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru; Ruth Johnston, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Strategaeth Ddŵr; Natalie Hall, Rheolwr, Adfer o Lifogydd

Crynodeb: Trafod y diweddariad ar waith presennol yn ymwneud ag ansawdd dŵr

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B17

15.25

(10 mun)

Egwyl

15.35

(45 mun)

10. Rheoleiddio'r gwaith o reoli Adar sy'n Bwyta Pysgod: Argymhellion

Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflwynwyr: Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu; Ben Wilson, Prif Gynghorydd, Pysgodfeydd; Sarah Wood, Rheolwr Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 

Crynodeb: CYMERADWYO yr argymhellion ar gyfer rheoleiddio'r gwaith o reoli Adar sy'n Bwyta Pysgod

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B19

16.20

(10 mun)

11. Adroddiad Blynyddol 2021/22 ar yr Iaith Gymraeg Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflwynydd: Lyn Williams, Cynghorydd Polisi Iaith Gymraeg

Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Blynyddol 2021/22 ar yr Iaith Gymraeg 

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B20

16.30

(10 mun)

12. Eitemau Cyhoeddus a Phreifat ar Agenda'r Bwrdd Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflwynydd: Victoria Painter, Rheolwr Llywodraethu a Risg; Daniel Haighway, Contractwr, Llywodraethu a Risg

Crynodeb: CYMERADWYO y meini prawf ar gyfer eitemau cyhoeddus a phreifat ar agenda'r Bwrdd

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B21

16.40

(5 mun)

13. Newidiadau arfaethedig i'r Cynllun Statudol a Chyfreithiol (SaLS)

Noddwr: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd

Crynodeb: CYMERADWYO newidiadau i'r SaLS ar gyfer Bwrdd Busnes y Gwasanaethau Corfforaethol 

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B22

16.45

(5 mun)

14. Rhagolwg y Bwrdd

Noddwr: Syr David Henshaw

Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd 

Cyfeirnod y Papur: 22-07-B23

16.50

(5 mun)

15. Unrhyw Fater Arall

a) Adroddiad ar Berfformiad Cyllid hyd at fis Mawrth 2022

Crynodeb: Er gwybodaeth Cyfeirnod y Papur: 22-07-B24

16.55

Diwedd y Cyfarfod

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Agenda PDF [164.5 KB]
Papurau Bwrdd PDF [8.8 MB]
Cofnodion a gadarnhawyd PDF [232.1 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf