Ceisiadau am grant: dangos sut y byddwch yn defnyddio ac ynhybu’r Gymraeg

Bydd angen i brosiectau sy’n cael cyllid grant CNC ddarparu a chyhoeddi gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae darparu gwybodaeth yn ddwyieithog yn helpu ihybu’r prosiect ar draws holl gymunedau Cymru, yn ennyn diddordeb pobl yn eu dewis iaith, ac yn trin y ddwy iaith yn gyfartal o’r cychwyn cyntaf.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei gynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg

Os byddwch yn cynhyrchu unrhyw un neu ragor o’r canlynol, rhaid iddynt fod yn Gymraeg ac yn Saesneg:

  • Llythyrau
  • Posteri
  • Taflenni
  • Cylchlythyrau
  • Hysbysebion
  • Gwefan
  • Ffilmiau
  • Adroddiad ffurfiol am y prosiect

Yr hyn y gallai fod angen i chi ei gyflwyno’n ddwyieithog

Gallai eich prosiect gynnwys rhywfaint o waith hyrwyddo, gan gynnwys y canlynol:

  • delio ag ymholiadau gan y cyhoedd
  • rhoi cyfweliadau i’r cyfryngau/y cyfryngau cymdeithasol
  • rhoi cyflwyniadau
  • gweithio gydag ysgolion, pobl sy’n agored i niwed neu bobl anabl

Os felly, bydd angen i chi ystyried natur ieithyddol y gymuned a’r gynulleidfa y byddwch yn gweithio gyda hi, neu’n gobeithio ei chyrraedd. Meddyliwch a oes angen siaradwr Cymraeg arnoch i gyflawni elfennau o’ch prosiect yn ddwyieithog.

Cynnwys costau yng nghyllideb eich prosiect

Pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid grant, bydd angen i chi gynnwys y costau o weithio’n ddwyieithog yng nghyllideb eich prosiect. Gallai’r rhain fod ar gyfer cyfieithu’r canlynol:  

  • deunyddiau cyhoeddusrwydd/hyrwyddo
  • gwefannau (neu ddylunwyr gwe dwyieithog)
  • hysbysebion (gan gynnwys hysbysebion swyddi)
  • cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf